 |
|
|
Amdanom Ni
Yr ydym yn trefnu rhaglen lawn o deithiau cerdded trwy’r flwyddyn ledled Gwynedd. Mae pellter y teithiau’n amrywio o 3 i 12 milltir o hyd, a’r anhawster yn amrywio o hawdd i ymdrechgar.
Ar dudalen rhaglen teithiau mae manylion am bob un o’r teithiau a hefyd mynegiad da o raddfa anawsterau pob taith. Nid yw pwyslais ein teithiau ar gyrraedd y terfyn yn y lleiaf amser posibl ond yn hytrach ar daith dda, ac ar fwynhau harddwch cefn gwlad Cymreig, boed i’r haul ddisgleirio neu boed i ni gael ambell i gawod o law. Fe awn i gyd ar ein cyflymdra gwahanol ein hunain gydag egwylion rheolaidd ar gyfer ailgasglu a gorffwys. Yr ydym eisiau i’n teithiau cerdded fod yn brofiad pleserus i bawb sydd yn eu mynychu.
Mae oddeutu 160 aelod yn ein Grwp, ac un o oddeutu 500 o Grwpiau Cerddwyr ledled y Deyrnas Unedig ydym, yn cynnwys 12 Grwp yng Ngogledd Cymru. Caiff aelodau o’r Cerddwyr gerdded ag unrhyw un o grwpiau’r ardal. Mae’r dudalen gyswllt yn cynnwys cysylltiadau i bob un o wefannau’r grwpiau eraill yng Ngogledd Cymru.
Aelodau Newydd
Yr ydym yn ddi-os yn croesawu pobl newydd i’n Grwp. Ni fyddwn yn gofyn i chi gofrestru’n syth os nad ydych yn sicr eich bod eisiau ymaelodi. Mae croeso i chi ymuno â ni am gyfnod cyflwyniadol byr, os ydych yn gerddwr profiadol ai peidio, er mwyn eich cynorthwyo i wneud eich meddwl i fyny ynglyn â chofrestru. Mae amrywiaeth o bellterau ac anawsterau ar raglen ein teithiau cerdded, felly medrwch gychwyn â thaith hamddenol os mynnwch. Ar ôl cyfnod o ddwy neu dair taith gerdded efo ni, fe ofynnir i chi gofrestru fel aelod o’r Cerddwyr.
Yn ogystal â rhoi mynediad i’r oll o’r teithiau cerdded, mae aelodaeth Y Cerddwyr yn cynnig y buddion canlynol:
- Cylchgrawn chwarterol yn llawn o gyfarpar ac adolygiadau llyfrau, ffotograffiaeth syfrdanol ac erthyglau nodwedd cyffrous gan ysgrifenwyr enwog.
- Walk Britain (paa: £5.99) - y llawlyfr blynyddol sy’n cynnwys mapiau, ffotograffau, manylion cyswllt a llawer o ddisgowntiau ar restrau llety.
- Disgowntiau gorddewisol - arbedwch arian ar ddillad a chyfarpar mewn sawl siop, yn eu mysg llawer o siopau annibynnol lleol, yn cynnwys gostyngiad o10% yn Millets, Blacks & Rohan. Mae disgowntiau lleol ar gael yn siop Gelert.
- Hawl i weld llyfrgell mapiau’r Cerddwyr - cyfle i fenthyg, am ffi fach iawn, o gasgliad eang mapiau Arolwg Ordnans Y Cerddwyr.
Ymunwch â ni rwan ar www.ramblers.org.uk/membership/about/joinand-share-the-joy.htm
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin
|
|
 |
| Hawlfraint © 2009-2012 Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor |
English - Cyswllt - Map o'r safle |
| Gwefan gan Electronic Spider Ltd |
Valid XHTML - Valid CSS |
|