 |
|
|
Cwestiynau Cyffredin
Beth ddylwn fynd efo fi ar daith gerdded?
Gweler isod restr awgrymedig o eitemau, rhai ohonynt yn dymhorol. Peidiwch ag anghofio y gall amgylchiadau, ambell waith yn ddirybudd, waethygu’n gyflym unrhyw adeg o’r flwyddyn, yn enwedig ar dir uchel.
- Esgidiau gwrth-ddwr cyfforddus neu esgidiau cryf
- Dillad gwrth-ddwr (e.e. cagoule, trowsus tywydd gwlyb)
- Nid ydym yn cymeradwyo jîns gan eu bod yn anghyfforddus iawn pan fo’r tywydd yn wlyb
- Sach deithio fechan
- Cinio pecyn (a fflasg a diod)
- Dillad sbâr, het, menig a sanau
- Esgidiau i newid iddynt (hanfodol i gerddwyr sy’n trafaelio yno mewn car)
- Mat gwrth-ddwr ysgafn (ar gyfer eistedd arno)
- Tortsh, map a phecyn cymorth cyntaf bychan
- Ar ddyddiau heulog, sbectol haul ac eli haul
Edrychwch ar y gwefanau isod am ddigonedd o gyngor ymarferol pellach:
Os yw’r arweinydd yn ystyried bod cyfranogwr unai ddim yn ddigon ffit neu fod ei dillad neu ei cit yn annigonol, gall wrthod iddo/iddi gymryd rhan.
A fydd yn rhaid i mi fynd ar bob un taith?
Na! Yr ydym yn deall ei bod yn amhosibl mynd ar bob un o’r teithiau oherwydd ymrwymiadau gwaith a theulu. Cymrwch ran mewn cymaint ag y medrwch.
A ydy cerdded yn fuddiol i chi?
Gwnaiff cerdded eich cadw’n iach - gall cerdded yn fywiog am hyd yn oed hanner awr y dydd gynorthwyo i atal clefyd y galon, cadw pwysau i lawr a diwygio eich meddwl. Cerdded yw'r drafnidiaeth gynaliadwy bennaf.
Faint o amser fydd yn rhaid i mi ei gael?
Gall y rhan fwyaf o bobl gerdded 3 cilomedr/2 filltir mewn awr, ond caniatewch ddigonedd o amser ychwanegol i gymryd seibiau ar y daith, ac i fwynhau’r amgylchoedd. Gall cerddwyr profiadol gerdded ychydig yn gyflymach. Bydd dringo bryniau yn eich arafu i lawr hefyd - synnwyr y bawd arferol yw ychwanegu hanner awr am bob 300 medr o ddringo. Darganfyddwch y bydd i chi gerdded yn gyflymach ar hyd arwynebau llyfn megis llwybrau â metalwaith a thraciau da, ond eich arafu a wnaiff arwynebau anodd megis mwd, tywod a thir anwastad.
Beth ddylwn ei gael yn fy mhecyn cymorth cyntaf?
Mae’n syniad da mynd â chit ymgeledd gyda chi pan ydych yn cerdded mewn grwp neu ar eich pen eich hun. Bydd arfer gwneud hyn rwan o fudd i chi yn y dyfodol. Rhai pethau a ddylid eu cynnwys yw:
- 10 plastr o feintiau gwahanol
- 2 orchudd di-haint mawr ar gyfer rheoli gwaedu difrifol
- 1 gorchudd di-haint canolig ar gyfer gofal briwiau mwy
- 4 rhwymyn trionglog i gynnal asgwrn sydd o bosibl wedi torri, neu ar gyfer dadleoliadau neu ysigiadau
- 1 pad llygaid ar gyfer briw i lygad
- 4 pin cau ar gyfer cysylltu gorchuddion
- 1 pâr o fenig tafladwy i weithredu gwyddor hylendid da
Gaf fi jest troi i fyny ar y dydd am y daith gerdded?
Cewch. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw troi i fyny yn y cyfeirnod grid dynodedig a chyflwyno eich hun i’r arweinydd neu i aelod arall fuasai’n hapus i’ch cyflwyno. Fodd bynnag mae’n well rhoi galwad ffôn i’r arweinydd dynodedig ymlaen llaw er mwyn gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf.
A oes unrhyw reolau y dylwn fod yn gyfarwydd â hwy?
Nid oes “rheolau” fel y cyfryw, ond dilynwch y canllawiau synnwyr cyffredin hyn os gwelwch yn dda er mwyn gwneud gwaith yr arweinydd yn haws:
- Peidiwch â cherdded o flaen yr arweinydd os gwelwch yn dda
- Cerddwch un ar ôl y llall ar dir amaeth (cnydau)
- Dywedwch wrth yr arweinydd os penderfynwch adael y grwp am unrhyw reswm
- Arsylwch reolau newydd cefn gwlad
- Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch arwyddion
- Gadewch gatiau ac eiddo fel y cawsoch hwy
- Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref
- Cadwch gwn dan reolaeth
- Ystyriwch bobl eraill
Gaf fi ddod â’m ci?
Honnwch fel rheol na chaniateir i gwn ddod ar y teithiau gan fod llawer o’n teithiau dros gynefinoedd da byw. Fodd bynnag os ydych yn awyddus i gerdded efo’ch ci, gwiriwch efo'r arweinydd dros y ffôn ymlaen llaw er mwyn cael penderfyniad terfynol os gwelwch yn dda.
|





|
|
 |
| Hawlfraint © 2009-2012 Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor |
English - Cyswllt - Map o'r safle |
| Gwefan gan Electronic Spider Ltd |
Valid XHTML - Valid CSS |
|