 |
|
|
Graddio'r Teithiau
Teithiau Mynediad Hawdd [MH]
Ar gyfer pawb, gan gynnwys pobl efo cadeiriau olwyn confensiynol a chadeiriau gwthio, yn defnyddio llwybrau mynediad hawdd. Gellir gwisgo esgidiau neu esgidiau ymarfer cyfforddus. Angen help i wthio cadeiriau olwyn ar rai rhannau: holwch os gwelwch yn dda.
Teithiau Hawdd [H]
I unrhyw un na does ganddynt anhawster symudedd na phroblem iechyd penodol nac yn ddifrifol o anystwyth. Addas ar gyfer cadeiriau gwthio a ellir eu codi dros ambell i atalfa. Gellir gwisgo esgidiau neu esgidiau ymarfer cyfforddus.
Teithiau Hamddenol [HA]
Ar gyfer pobl gweddol ffit sydd ag ychydig o brofiad o deithiau gwledig. Efallai yn cynnwys llwybrau gwledig heb arwyneb. Cymeradwyir esgidiau cryf a dillad gwrth-ddwr cynnes.
Teithiau Canolig [C]
Ar gyfer pobl â phrofiad o deithiau gwledig a chyda lefel dda o ffitrwydd. Efallai’n cynnwys rhai llwybrau serth a thir agored. Mae esgidiau cryf a dillad gwrth-ddwr cynnes yn angenrheidiol.
Teithiau Ymdrechgar [Y]
Ar gyfer teithwyr gyda lefel uwch o ffitrwydd canolig sy’n brofiadol mewn teithiau gwledig. Efallai’n cynnwys bryniau a thir garw. Mae esgidiau cryf a dillad gwrth-ddwr cynnes yn angenrheidiol. Cynghorir pobl sydd ag amheuon am eu ffitrwydd i gysylltu â’r trefnydd neu arweinydd ymlaen llaw.
Teithiau Technegol [T]
Ar gyfer cerddwyr profiadol ac abl gyda sgiliau technegol ychwanegol. Efallai’n ymofyn sgramblo, defnyddio rhaffau ceibiau eira a chramponau.
Fe ddylech gysylltu â’r trefnydd neu’r arweinydd ymlaen llaw am ragor o fanylion. Mae graddau’n cael eu darparu’n unig fel canllawiau cyffredinol - os oes gennych unrhyw amheuaeth am eich ffitrwydd ar gyfer taith benodol, cysylltwch â’r trefnydd neu’r arweinydd ymlaen llaw. Fe ddylech hefyd gadw mewn cof bellter y daith, gwahaniaethau rhanbarthol y tir a’r posibilrwydd o dywydd drwg gan y gall hyn wneud y daith yn fwy anodd na’r disgwyl. Os ydych yn ansicr am lefel eich ffitrwydd, blaswch daith fer hawdd yn y lle cyntaf: mae’n llawer gwell ffeindio bod taith braidd yn araf a hawdd na gwneud eich hun yn druenus a blin. Gall arweinwyr wrthod derbyn cyfranogwyr sydd, yn eu barn hwy, yn anystwyth neu sydd wedi cyfarparu’n annigonol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Cwestiynau Cyffredin
|
|
 |
| Hawlfraint © 2009-2010 Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor |
English - Cyswllt - Map o'r safle |
| Gwefan gan Electronic Spider Ltd |
Valid XHTML - Valid CSS |
|