Caernarfon and Dwyfor Ramblers

Teithiau Cerdded

RHYBUDD PWYSIG

Mae gan bob gweithgaredd o chwaraeon a hamdden beryglon cynhenid yn gysylltiol â hwy ac nid yw ramblo'n eithriad. Diogelwch aelodau yw'r pryder pennaf, er hynny mae damweiniau'n digwydd weithiau. Mae felly'n bwysig, wrth gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, fod pob aelod yn gwerthfawrogi'r ffaith bod ganddynt gyfrifoldeb i nodi'r peryglon sy'n gysylltiedig â’r gweithgaredd ac yn cymryd camau rhesymol i ddileu neu i leihau'r potensial i ddamwain ddigwydd.

Teithiau cerdded hawdd

Heb gerdded llawer o'r blaen? Eisiau rhoi cynnig arni? Dim eisiau mynd rhy bell? Blaswch un o'n teithiau cerdded byr - pam lai? Mae hyd yn oed dafarn/gaffi ar derfyn rhai ohonynt! Fe allai’r teithiau hyn fod yr union beth yr ydych yn chwilio amdanynt. Gweler y teithiau â sêr gwyrdd yn y rhaglen:-
Cnicht and Cwm Croesor
Dyddiad Dydd Sadwrn Gorffennaf 31ain Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Oherwydd gwyntoedd cryfion ni chyrrhaeddom y copa fis Hydref diwethaf. Y tro yma gobeithiwn gwblhau’r daith i’r Cnicht ac o gwmpas pen Cwm Croesor.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 631 446 Gradd Ymdrechgar
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio Croesor
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01286 881071
Taith deuluol gylchol drwy gaeau a bryniau isel
Dyddiad Dydd Mercher Awst 4ydd Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Mynd am dro drwy faes gwersylla’r Comisiwn Coedwigaeth, i fyny i Pethi ac yn ôl i’r pentref. Addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau samplu taith gerdded efo’r Cerddwyr.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 588 484 Gradd Hamddenol
Pellter 3 milltir Cyfarfod Maes parcio Beddgelert (di-dal)
Arweinydd Ron Rhif Cyswllt 01766 890391
Cerdded i fyny'r Aran
Dyddiad Dydd Sul Awst 8fed Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Mae’r daith yn dilyn llwybr newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i lwybr Watkin am ychydig ffordd cyn dringo’r Aran ar hyd y copaon i Graig Wen, yna i lawr i Graflwyn a dychwelyd i Feddgelert am baned.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 600 490 Gradd Ymdrechgar
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio Craflwyn
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01766 512630
St Aelhaern + Tre'r Ceiri
Dyddiad Dydd Iau Awst 12fed Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith yn ymweld â safleoedd hynafol efo Syd, arbenigwr ar ddehongli lleoliadau cynhanesyddol.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 388 447 Gradd Canolig
Pellter 4milltir Cyfarfod Llanaelhaern, yn ymyl y Caffi/PO
Arweinydd Syd Rhif Cyswllt 01766 522238
Moelwyn Mawr a Bach
Dyddiad Dydd Sadwrn Awst 14eg Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith i ben Moelwyn Mawr a Bach - yn cynnwys y ddau gopa, yna yn y caffi wrth ymyl y llyn.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 683 449 Gradd Ymdrechgar
Pellter 7 milltir Cyfarfod Yn ymyl stop Rheilffordd Tanygrisiau
Arweinydd Denis Rhif Cyswllt 01766 523407
Cerdded ar hyd Afon Glaslyn, trwy goed
Dyddiad Dydd Mercher Awst 18fed Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith deuluol hawdd uwchben yr Afon Glaslyn. Esgyniad hawdd i Neuadd Aberglaslyn a dychwelyd ar hyd Llwybr y Pysgotwr. Hufen iâ wedyn!
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 588 484 Gradd Hamddenol
Pellter 3 milltir Cyfarfod Maes parcio Beddgelert (di-dal)
Arweinydd Ron Rhif Cyswllt 01766 890391
Blaenau i Borthmadog
Dyddiad Dydd Sul Awst 22ain Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Er gostwng i lawr i lefel y môr y mae rhai rhannau i fyny. Bydd opsiwn i orffen ym Mhenrhyndeudraeth. Caffiau a thafarnau ym Mhorthmadog, yn cynnwys Spooners.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 701 459 Gradd Canolig
Pellter 12 milltir Cyfarfod Gwesty'r Frenhines Blaenau (bws 1B o Borthmadog)
Arweinydd Denis Rhif Cyswllt 01766 523407
Rhyd Ddu gylchol
Dyddiad Dydd Iau Awst 26ain Amser Cychwyn 11-15yb DISGRIFIAD: Taith gylchol i ben Cwm Pennant, drwy Goedwig Beddgelert a llethrau is yr Wyddfa. Bws S4 o Gaernarfon am 10:50yb neu drên Rheilffordd Eryri am 10yb. Wedyn am baned yn nhy bwyta Rhyd Ddu.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 572 526 Gradd Canolig
Pellter 8 milltir Cyfarfod Maes parcio Rhyd Ddu
Arweinydd Micky Rhif Cyswllt 01286 673932
Rhan o lwybr arfordirol Sir Fôn
Dyddiad Dydd Mawrth Awst 31ain Amser Cychwyn 10-20yb DISGRIFIAD: O lechwedd serth uwchben Traeth Coch i Benmon, lle hanesyddol, ac ymlaen at lannau’r Fenai. Golygfeydd penigamp o’r môr.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 606 761 Gradd Canolig
Pellter 12 milltir Cyfarfod Safle bws Spar, Biwmaris
Arweinydd Dave Rhif Cyswllt 01766 650691
Tanygrisiau i Dan y Bwlch
Dyddiad Dydd Sadwrn Medi 4ydd Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Reid ar Reilffordd Ffestiniog. Taith gerdded ddiddorol drwy fro brydferth efo golygfeydd ysblennydd wrth gris-groesio’r rheilffordd ar y ffordd. Dim ond pum milltir.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 650 416 Gradd Canolig
Pellter 5 milltir Cyfarfod Maes parcio Stesion Tan y Bwlch (trên am 10.50yb)
Arweinydd Dave a Pat Rhif Cyswllt 01766 523204
Dyffryn Ardudwy gylchol
Dyddiad Dydd Sul Medi 12fed Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Defnyddio hen ffyrdd porthmyn s’yn cynnwys rhan o grib deheuol y Rhinogau. Garw a charegog mewn rhannau ar y ffordd i lawr, corsiog mewn mannau, ond ar wahân i hyn llwybrau a thraciau da.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 602 231 Gradd Ymdrechgar
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio yn ymyl Fferm Gedol. Parcio cyfyngedig!!
Arweinydd Dafydd Rhif Cyswllt 01286 882091
Crimpiau a Chreigiau Gleision
Dyddiad Dydd Sul Medi 19eg Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith â gloygfeydd godidog dros Ddyffryn Ogwen, Moel Siabod a Dyffryn Conwy.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 721 582 Gradd Ymdrechgar
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio tu ôl i siop Joe Brown Capel Curig
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01286 881071
Bryniau a llwybrau + opsiwn tafarn
Dyddiad Dydd Sadwrn Medi 25ain Amser Cychwyn 2-00yp DISGRIFIAD: Harddwch eithriadol. Yn bodloni’r cerddwr amryddawn.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 307 405 Gradd Canolig
Pellter 6 milltir Cyfarfod Maes parcio Fron, Nefyn
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01766 810189
Cylchol o gwmpas Tremadog gyda thema hanesyddol
Dyddiad Dydd Sadwrn Hydref 2ail Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Fel yr arfer, taith ddiddorol, hamddenol ac addysgiadol efo Graham a Pat. Wedyn yn Nhafarn y “Golden Fleece”.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 561 401 Gradd Hamddenol
Pellter 6 milltir Cyfarfod Sgwâr y Farchnad Tremadog
Arweinydd Graham a Pat Rhif Cyswllt 01248 670778
Gyrn Goch - Gyrn Ddu - Harbwr Trefor
Dyddiad Dydd Sul Hydref 10fed Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Disgyniad byr o bentref Gyrn Goch, yna dringo serth i fyny dyffryn cudd ar draws gwahanfa ddwr gwyllt a garw i ymuno â llwybr clir-ddiffiniedig yn ôl i lawr i’r traeth yn Nhrefor. Bydd ceir wedi eu dethol i fynd i faes parcio traeth Trefor ar ddiwedd y daith.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 404 486 Gradd Canolig
Pellter 6 milltir Cyfarfod Maes parcio Gyrn Goch
Arweinydd Dafydd Rhif Cyswllt 01286 882091
Fforio Dyffryn Nantlle
Dyddiad Dydd Iau Hydref 14eg Amser Cychwyn 11-00yb DISGRIFIAD: Taith hamddenol drwy’r dyffryn, ar hyd yr ochr ddeheuol o orllewin Dyffryn Nantlle gan gynnwys llyn Chwarel Dorothea a’r ty pwmpio.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 488 528 Gradd Hamddenol
Pellter 6 milltir Cyfarfod Maes parcio Canolfan Talysarn
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01286 881071
Mynediad tir gylchol Blaenau
Dyddiad Dydd Sadwrn Hydref 16eg Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith ar draws bro â hawl agored lle mae problemau wedi bod yn y gorffennol. Ydyw pethau wedi gwella? Lluniaeth wedyn yn y Blaenau.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 701 459 Gradd Ymdrechgar
Pellter 8 milltir Cyfarfod Gwesty'r Frenhines Blaenau
Arweinydd Denis Rhif Cyswllt 01766 523407
Cwmystradllyn a Moel Ddu gydag archaeoleg ddiwydiannol
Dyddiad Dydd Sul Hydref 24ain Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith hynod o hardd i fyny’r dyffryn yn ymweld ag adfeilion anghyfannedd pentref i syllu a synnu ar waith dynion cyffredin, a ffolineb y buddsoddiad i agor Chwarel Gorseddau. Dod i lawr ochrau Moel Ddu dros Ddyffryn Glaslyn ac yna yn ôl i’r maes parcio.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 557 442 Gradd Canolig
Pellter 6 milltir Cyfarfod Maes parcio argae cronfa ddwr Cwm Ystradllyn
Arweinydd Dafydd Rhif Cyswllt 01286 882091
Efo Gelert i Ddinas Emrys
Dyddiad Dydd Sul Hydref 30ain Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith hanesyddol efo Gelert i Ddinas Emrys. Y Ddraig Goch yn erbyn y Ddraig Wen. A oedd y Brenin Arthur yma? Paned ym Meddgelert wedyn.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 590 482 Gradd Canolig
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio Beddgelert (di-dal)
Arweinydd Syd Rhif Cyswllt 01766 522238
Coedwigoedd a rhaeadrau
Dyddiad Dydd Sadwrn Tachwedd 6ed Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith gylchol drwy amryw o goedwigoedd a heibio afonydd a rhaeadrau.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 700 420 Gradd Canolig
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio Llan Ffestiniog
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01766 512630
Cnicht and Cwm Croesor
Dyddiad Amser Cychwyn DISGRIFIAD:
Cychwyn a Chyfeirnod Grid Gradd
Pellter Cyfarfod
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01286 881071
Megalithau Cricieth
Dyddiad Dydd Mercher Tachwedd 10fed Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith hanesyddol yn ymweld â megalithau Cricieth efo Syd, ein harbenigwr.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 505 382 Gradd Hamddenol
Pellter 8 milltir Cyfarfod Maes parcio traeth dwyreiniol Cricieth
Arweinydd Syd Rhif Cyswllt 01766 522238
CCB y Grwp
Dyddiad Dydd Iau Tachwedd 11eg Amser Cychwyn 7-00yh DISGRIFIAD: Sgwrs a chyflwyniad ar ei lyfr gan Dewi Jones, "The Mountaineers of Wales". Lluniaeth a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i ddilyn.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 586 415 Gradd #
Pellter # Cyfarfod Neuadd Gymunedol Prenteg
Arweinydd Edmund (Ysgrifennydd) Rhif Cyswllt 01286 881880
Porthllechog i Gemaes
Dyddiad Dydd Sadwrn Tachwedd 13eg Amser Cychwyn 10-15yb DISGRIFIAD: Fe fyddwn yn dal bws o Gemaes i Borthllechog, yna cerdded yn ôl ar hyd y llwybr arfordirol ysblennydd. Gobeithiwn gael paned yng Nghemaes wedyn (os ar agor!).
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 374 937 Gradd Canolig
Pellter 6 milltir Cyfarfod Bae Cemaes
Arweinydd Di Rhif Cyswllt 01286 881122
O gwmpas Llanfaglan
Dyddiad Dydd Mawrth Tachwedd 16eg Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith gylchol i hen eglwys Llanfaglan, hen Eglwys segur sy’n cael ei chadw gan yr elusen Friends of Friendless Churches. Gobeithiwn gael mynediad i’r eglwys er mwyn gweld ym mha fath o le yr oedd y bonedd yn eistedd, a meinciau’r taeogion. Amryw o feddi môr-ladron i’w gweld.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 482 619 Gradd Hamddenol
Pellter 8 milltir Cyfarfod Maes parcio Tesco Caernarfon
Arweinydd Micky Rhif Cyswllt 01286 673932
Taith o gwmpas Llanberis uchaf
Dyddiad Dydd Sadwrn Tachwedd 20fed Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith gerdded ar y llwybrau uwchben Llanberis. Lluniaeth yn y byd-enwog Pete’s Eats!!!
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 577 605 Gradd Canolig
Pellter 7 milltir Cyfarfod Maes parcio ffordd osgoi Llanberis
Arweinydd Gutto Rhif Cyswllt 01286 870342
Moel y Gest - 6000 o flynyddoedd
Dyddiad Dydd Mercher Tachwedd 24ain Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith yn llawn o hanes efo Syd.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 566 388 Gradd Canolig
Pellter 7 milltir Cyfarfod Stad Ddiwydiannol Penamser
Arweinydd Syd Rhif Cyswllt 01766 522238
Chwarel Drum a Bryn y Castell
Dyddiad Dydd Sul Tachwedd 28ain Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Mynd i le yn Eryri sydd ddim yn cael ei ymweld yn aml. Ymwelwn â llefydd o’r Mabinogion, y “Shotton” o 200 mlynedd yn ôl, bryngaerau, chwareli llechi a “Dyffryn y Beddau”. Serth yn rhai mannau gyda golygfeydd ffantastig.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 735 417 Gradd Canolig
Pellter 5 milltir Cyfarfod Maes parcio (cyfyngedig) ar y B4391
Arweinydd Dafydd Rhif Cyswllt 01286 882091
Gwaith Bwyeill Mynydd Rhiw
Dyddiad Dydd Mercher Rhagfyr 1af Amser Cychwyn 10-30yb DISGRIFIAD: Taith bedair milltir hawdd yn dysgu hanes efo Syd.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 226 278 Gradd Canolig
Pellter 4 milltir Cyfarfod Rhiw ex PO
Arweinydd Syd Rhif Cyswllt 01766 522238
Taith Nadolig y Grwp
Dyddiad Dydd Sadwrn Rhagfyr 4ydd Amser Cychwyn 10-15yb DISGRIFIAD: Taith bedair milltir hawdd cyn ein cinio Nadolig blynyddol yn “Y Llew”, tafarn sydd wedi ennill dyfarniad gastronomig.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 237 368 Gradd Hamddenol
Pellter 5 milltir Cyfarfod Maes parcio Gwesty'r Llew
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01766 810189
Golygfeydd dramatig, rheilffordd a llechi o amgylch Y Felinheli
Dyddiad Dydd Mercher Rhagfyr 8fed Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: I fyny’n gychwynnol a wedyn taith gylchol chwe milltir hawdd dros gaeau. Bydd sôn am nodweddion hanesyddol.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 526 678 Gradd Hamddenol
Pellter 6 milltir Cyfarfod Porthladd Hen Gei Llechi
Arweinydd Graham a Pat Rhif Cyswllt 01248 670778
Cwmystradllyn - taith gylchol o Dremadog
Dyddiad Dydd Sul Rhagfyr 12fed Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith egnïol ddeng milltir ar hyd llwybrau na chant eu cerdded yn aml, heibio adfael melin lechi at gronfa ddwr Cwmystradllyn (o’i gwmpas os bydd amser yn caniatáu) a dychwelyd ar lwybr gwahanol.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 561 401 Gradd Canolig
Pellter 10 milltir Cyfarfod Sgwâr Tremadog
Arweinydd John Rhif Cyswllt 01766 512630
Ymestyn y coesau cyn y Nadolig. Dros ac o amgylch Moel Eilio
Dyddiad Dydd Mawrth Rhagfyr 21ain Amser Cychwyn 10-45yb DISGRIFIAD: Bws i “Snowdon Ranger”, dilyn Llwybr Llyn Cwellyn, yna dewis, yn ddibynnol ar y tywydd, Moel Eilio neu Fwlch y Groes. Mins peis ar y ffordd!
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 527 588 Gradd Canolig
Pellter 8 milltir Cyfarfod Stesion Rheilffordd Eryri Waunfawr am fws i Snowdon Ranger
Arweinydd Dave Rhif Cyswllt 01286 650696
Taith dreftadaeth drwy Groeslon a Charmel
Dyddiad Dydd Llun Ionawr 3ydd Amser Cychwyn 10-00yb DISGRIFIAD: Taith dreftadaeth drwy Groeslon a Charmel. Taith boblogaidd iawn yn dilyn gormodaeth y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Cyfle i wneud Adduned Blwyddyn Newydd i gerdded yn fwy aml efo Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor yn 2011! Maent yn ein disgwyl wedyn yng Nghaffi Inigo Jones.
Cychwyn a Chyfeirnod Grid SH 470 551 Gradd Hamddenol
Pellter 6 milltir Cyfarfod Maes parcio Inigo Jones
Arweinydd Edmund a Rachel Rhif Cyswllt 01286 880188
Hawlfraint © 2009-2010 Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor English  -  Cyswllt  -  Map o'r safle
Gwefan gan Electronic Spider Ltd Valid XHTML  -  Valid CSS
Caernarfon and Dwyfor Ramblers